Cafodd rhifyn Gorffennaf o bodlediad Clera (ar gael ar SoundCloud ac iTunes) ei recordio yn y Sesiwn Fawr yn Nolgellau. Diolch i'r ŵyl am ei gwahodd ni i fod yn rhan o arlwy'r penwythnos. A diolch hefyd i'n gwesteion arbennig – y gantores Lowri Evans (gyda Lee ar y gitâr) a'r beirdd Elis Dafydd a Gruffudd Antur – am fod mor barod i drafod y berthynas rhwng barddoniaeth a chreu geiriau i ganeuon. Fe gawson ni sgwrs hefyd ag Elis am gyfrol newydd y mae o a Marged Tudur wedi ei golygu, Rhywbeth i'w Ddweud (Cyhoeddiadau Barddas). Fe oleuodd Gruffudd ni i gyd â'r ateb i'w bos diweddaraf ac – ar ôl iddo gofio beth oedd y cwestiwn – fe osododd y pos nesaf hefyd! Hyn i gyd a cherdd newydd gan Jodie Jones – bardd o Gwm Maethlon, nid nepell o Bennal – englyn ar y pryd gan Gruffudd, a llawer mwy.
Bydd y podlediad nesaf yn cael ei recordio'n fyw – gyda gwesteion arbennig – yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, a hynny ddydd Sadwrn 12 Awst am 1.15 – dewch draw! 1. Pwnco: sut brofiad yw creu cân i'w chanu, ac a yw'n wahanol i'r profiad o greu cerdd i'w chyhoeddi neu ei darllen 2. 12.55 Perfformiad byw gan Lowri Evans o'r gân 'Dyddiau Tywyll Du' 3. 16.50 Yr Orffwysfa: cerdd gan Jodie Jones, 'Blwyddyn o Ysbrydion' 4. 20.35 Pos rhif 5 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog – rhan 1 5. 29.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 6. 33.15 Pos rhif 5 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog – rhan 2 7. 34.30 Sgwrs ag Elis Dafydd am y gyfrol Rhywbeth i'w Ddweud 8. 37.55 Y Newyddion Heddiw
July's Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes) was recorded live at Y Sesiwn Fawr in Dolgellau, with special guests singer-songwriter Lowri Evans and poets Elis Dafydd and Gruffudd Antur. It includes a discussion on song lyrics as poetry, a strange case of amnesia and new poetry by Jodie Jones – and much more!
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|