Cafodd rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera (sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes) ei recordio yng Ngŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi gyda thri gwestai arbennig – Hywel Griffiths, Elinor Wyn Reynolds a Philippa Gibson. Fe gawson ni sgwrs â Hywel am fap arbennig o afon Teifi – llafur cariad Idris a Berys Mathias – ac am arwyddocâd afonydd yn gyffredinol mewn barddoniaeth Gymraeg. Darllenodd Elinor gerdd newydd sbon inni, a rhannodd Philippa â ni ei phrofiadau'n dysgu'r Gymraeg ac wedyn y gynghanedd. Hynny oll a phos newydd gan Gruffudd Antur, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a holl hwyl rownd arall o Gemau a Giamocs gyda Hywel ac Elinor.
Fe ges i ac Aneirin gyfle i rannu newyddion cyffrous hefyd am y podlediad, sef ei bod ni wedi derbyn nawdd hael iawn gan Llŷr James, dyn y pethe a chyfrifydd gorau Sir Gâr, os nad y genedl! Bydd y nawdd yn ei gwneud yn haws inni gynnal y podlediad ac yn ein galluogi ni'n dau i fod yn noddwyr hefyd yn ein tro, gan roi tâl i'n gwesteion am gerddi newydd sbon. Dyma englyn a luniais i'n noddwr newydd, y cyntaf o gadwyn hir! Wrth fentro cyfrifo'r drafael – gwŷr glew A gâi'r glêr yn ddiffael … Ti yw'r glewiaf bob gafael, Llŷr, o'r holl gyfrifwyr hael. 1. Pwnco: sgwrs â Hywel Griffiths am ei hoff ddau bwnc yn y byd i gyd – afonydd a barddoniaeth! 2. 18.30 Pos rhif 8 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 22.00 Yr Orffwysfa: 'Triciau' gan Elinor Wyn Reynolds 4. 26.10 Sgwrs â'r bardd o Langrannog, Philippa Gibson 5. 34.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 41.10 Gemau a Giamocs gyda Hywel Griffiths ac Eilnor Wyn Reynolds 7. 48.30 Y Newyddion Heddiw
The October edition of the Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes) was recorded live at Gŵyl y Cynhaeaf in Aberteifi with three special guests – Hywel Griffiths, Elinor Wyn Reynolds and Philippa Gibson – who were more than happy to talk about poetry, rivers, tricks, learning cynghanedd, aliens and much more! We can also announce that Clera has secured sponsorship – or should I say bardic patronage – from Llŷr James, the best chartered accountant in Carmarthenshire, if not the whole of Wales. With Llŷr's generous support, Clera will be able to go from strength to strength!
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|