Y mis bach – mae eisiau beirdd! Dyna o leiaf ein cred ni ar bodlediad Clera, sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Cafodd y brif sgwrs y tro hwn ei symbylu gan bennawd colofn Ceri Wyn Jones yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Barddas, sef 'faint y'ch chi'n godi am gerdd?' Mae'n beth i'w ddathlu fod pobl yng Nghymru heddiw'n dal i weld barddoniaeth fel peth y dylid talu amdano, am mai felly y bu erioed yn hanes y Gymraeg – ond tybed a ellid ac, yn wir, a ddylid ffurfioli'r berthynas rhwng y bardd a'i noddwr? Mae pos Gruffudd Antur y mis hwn yn ymwneud â'r gerdd fyrraf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae cerdd yr Orffwysfa wedi ei chodi o gyfrol newydd sbon y prifardd a'r cyn-Fardd Cenedlaethol Gwyneth Lewis, sef Treiglo.
Daw'r brif eitem yn ail hanner y podlediad o Gaerfyrddin, a hynny o un o nosweithiau taith farddol newydd gan Karen Owen, sef 7 Llais – cafodd Nei gyfle i sgyrsio â Karen ei hun ac ag ambell un o'r gynulleidfa. Ces i a Nei gyfle wedyn i drafod ein hargraffiadau ni o'r perfformiad amlgyfryngol a chyffrous hwnnw. Hynny oll a recordiad o gerdd ghazal o gaer anhygoel ar gyrion Jaipur, a'r eitemau eraill arferol – Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a'r holl newyddion o'r byd barddol. 1. Pwnco: englyn gan Gruffudd Antur i'n noddwr haelionnus, Llŷr James (07.45), pwt am fy nhrafaels yn India ac am gadair a roddodd Nei'n rhodd i ysgol yn ddiweddar (09.30), ynghyd â sgwrs am werth barddoniaeth (11.10) 2. 24.15 Pos rhif 12 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 3. 27.00 Yr Orffwysfa: cerdd gan y prifardd Gwyneth Lewis o'i chyfrol newydd, Treiglo 4. 29.30 Eitem am daith farddol 7 Llais gan Karen Owen 5. 45.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 6. 51.25 Y Newyddion Heddiw
The February Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – includes a discussion on the value attached to poetry in Wales (where it is still usual for a poet to be commissioned to write a poem, often for a social occasion, and paid for it), a poem by the prifardd and former National Poet of Wales Gwyneth Lewis from her recent collection, Treiglo, and an item on Karen Owen's new poetry tour, 7 Llais.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|