Blwyddyn newydd – rhifyn newydd o bodlediad Clera! Mae'r sylw yn y pwnco'r tro hwn yn mynd i waith ymchwil sy gen i ar y gweill, a hynny ar farddoniaeth y gorau o feirdd yr ail ganrif ar bymtheg, Huw Morys (1622–1709). Yn ogystal â pharhau traddodiad y bardd proffesiynol drwy ennill bywoliaeth yn canu i bobl yn ei gymdeithas, mae pob math o bethau diddorol i'w dweud am Huw – o'i gynganeddu gwych i'w fesurau newydd cyffrous i'r ffaith ei fod yn canu i'r tlawd yn ogystal ag i'r cefnog. Y bwriad gen i yw mynd ati dros y blynyddoedd nesaf i olygu rhywfaint o'i waith, gyda golwg yn benodol ar gyhoeddi cyfrol o'i waith ar bedwar canmlwyddiant ei eni yn 2022 – ac mae hen ddigon o waith! Mae dyfyniadau i'w clywed yn y podlediad y mis hwn o un o gerddi Huw dwi wedi bod wrthi'n ei golygu, sef 'Codi Nant-y-cwm', ac mae golygiad o'r gerdd gyfan i'w weld isod, ynghyd â geirfa a manylion llawysgrifol. Hyn i gyd ac englynion newydd gan Hywel Griffiths, trosolwg o'r flwyddyn farddol i ddod gan Grug Muse, gorffwysgerdd gan Gruffudd Antur, trafodaeth ar un o feirdd mwyaf Llydaw, Anjela Duval, a'r holl eitemau arferol. Ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Ac un adduned fach i ddechrau'r flwyddyn – englyn gan Aneirin:
Awn at y cynfas â rasel, a'r rhwyg Sy'n rhwyg rhag pob rhyfel, Ond a ddaw hwn, doed a ddêl, Â llun arall i'n horiel? 1. Croeso i chi, ac i bawb sy yn y tŷ + englynion gwyddonol gan Hywel Griffiths (04.45) 2. 09.35 Pwnco: cyflwyniad i fywyd a gwaith Huw Morys, bardd mwyaf yr unfed ganrif ar bymtheg 3. 27.35 Pos rhif 23 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 31.50 Calennig gan Grug Muse: trem ymlaen dros y flwyddyn farddol i ddod 5. 39.00 Yr Orffwysfa: 'Calennig' gan Gruffudd Antur 6. 40.45 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Anjela Duval 7. 53.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 01.03.00 Y Newyddion Heddiw 9. 01.09.45 Englyn i gloi gan Aneirin
The first Clera podcast of 2019 – available on SoundCloud and iTunes – includes new poems by both Hywel Griffiths and Gruffudd Antur, a look ahead at the year in poetry with Grug Muse and an item on one of Brittany's best known poets, Anjela Duval. Also an introduction to the life and work of Huw Morys (1622–1709), Wales's foremost poet of the seventeenth century, who's work I'll be editing over the next few years, with a view to publishing an edition of at least some of his work by the fourth centenary year of his birth 2022.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|