Yn y mis bach – chwedl Mererid Hopwood, chwedl Nei'r rhifyn hwn – mae eisiau beirdd! Ym mhodlediad Clera'r mis hwn – cyfle'n gyntaf i sgyrsio am ambell beth sy wedi digwydd ar y sin yn ddiweddar, yn cynnwys noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth, erthygl gan Iestyn Tyne ar wefan y Stamp am 'Atgof' Prosser Rhys a phrosiect newydd gen i ar gyfer creu talwrn i bobl ifanc. Y bwriad yw sefydlu timau talwrn mewn pedair ysgol uwchradd dros y misoedd nesaf, a gofyn i bobl ifanc Cymru ailddychmygu'r hyn yw'r talwrn ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gyda chymorth gan y prifardd Gruffudd Eifion Owen a'r cyn-Fardd Plant Anni Llŷn. Sgwrs bwnco wedyn am y talwrn a'r ymryson – a'r gwahaniaeth pwysig rhwng y ddwy gystadleuaeth farddol! – gyda chyfraniadau gwerthfawr gan y prifardd archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r prifardd feuryn ei hun, Ceri Wyn Jones. Daw'r orffwysgerdd y tro hwn gan Caryl Bryn, a gellir darllen y gerdd yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas. Ac yn ogystal â'r holl eitemau arferol, sgwrs ddiddorol iawn gan Nei am Kervarker, bardd o Lydaw a ddaeth i Gymru ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg i gymryd rhan yn eisteddfodau'r Fenni. Ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes.
1. Croeso a sgwrs am y byd barddol a'i bethau 2. 12.25 Pwnco: y talwrn a'r ymryson 3. 38.15 Pos rhif 24 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 42.40 Yr Orffwysfa: 'Rhiwlas' gan Caryl Bryn 5. 44.55 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Kervarker ac eisteddfodau'r Fenni 6. 57.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.02.45 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast includes an introduction to a my current project at the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth to hold a 'talwrn' competition for young people over the coming months, an overview of what 'talwrn' and 'ymryson' mean – and the important differences between them! – with insight by the new archdruid Myrddin ap Dafydd and the presenter and adjudicator of BBC Radio Cymru's Talwrn y Beirdd programme, Ceri Wyn Jones. New poetry also by Caryl Bryn and a look back at Kervarker – one of Brittany's most notable poets – and his antics at the nineteenth century eisteddfodau. Available on both SoundCloud and iTunes.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|