Mae'n fis prynu anrhegion! A beth well ar rifyn olaf y flwyddyn o Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) nag arolwg o'r cyfrolau barddol a'r cyfrolau gan feirdd sy ar gael y Nadolig hwn? Ceir cyfraniadau gan Alaw Mai Edwards (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant Cymru ac awdur Eliffant yn Eistedd ar Enfys), Ffrank Olding (bardd y gyfrol newydd Eilun), Esyllt Lewis (un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp), Elinor Wyn Reynolds (awdur y nofel Gwirionedd) ac Iwan Rhys (awdur y nofel Y Bwrdd). Achubais i a Nei ar y cyfle wedyn i gael sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), ac am fy nghyfrol newydd i o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), a fydd allan yn y siopau'n fuan. Yn ogystal ag ychydig o hanes fy nhaith ddiweddar i India, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o farddoniaeth, The Bhyabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ceir sgwrs hefyd a recordiwyd yn Delhi rhyngof i a'm cyd-awdur, Sampurna Chattarji, sy'n cynnwys recordiad ohoni'n darllen ei cherdd 'Eisteddfod'. Hynny i gyd, a phedwaredd rownd Talwrn y Beirdd Ifanc, sef tasg yr haicw, gorffwysgerdd dymhorol gan Geraint Løvgreen a'r holl eitemau arferol.
1. Hanes diweddar Aneurig
2. 09.55 Pwnco: holl lyfrau barddol y Nadolig 3. 22.45 Sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg, a'm cyfrol newydd i o farddoniaeth, Llyfr Gwyrdd Ystwyth 4. 42.00 Pos rhif 34 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 46.35 Yr Orffwysgerdd: 'Siôn Corn' gan Geraint Løvgreen 6. 49.05 Talwrn y Beirdd Ifanc: pedwaredd rownd yr ornest gyntaf 7. 53.25 Sgwrs â Sampurna Chattarji a recordiwyd yn Delhi 8. 01.08.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.12.50 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) provides a personal shopping experience to some of the season's new books by some of the publishing industry's key agents and writers. Also a seasonal poem by Geraint Løvgreen, a conversation with Sampurna Chattarji, recorded on my recent visit to Delhi to launch and promote a brand new book of poems for children with Sampurna, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), and much more!
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|