Pa well ffordd i ddechrau'r flwyddyn newydd nag wrth wrando arnaf i ac Aneirin Karadog yn parablu am farddoniaeth?! Mae Podlediad Clera cyntaf 2017 wedi cyrraedd – ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – ac mae'n un trymlwythog iawn. Yn ogystal â sgwrs rhyngof i a Nei am gyhoeddi barddoniaeth heddiw – mewn ymateb i flogbyst diweddar gan Iestyn Tyne ac Osian Rhys Jones, gyda chyfraniad arbennig gan Llion Jones – mae uchafbwyntiau rhifyn mis Ionawr yn cynnwys cerdd newydd sbon a swynol iawn gan Casia Wiliam, sgwrs â Karen Owen a chyfle unigryw i glywed 'Y drafferth, mewn secsiop …', trac oddi ar CD newydd Karen o gerddi, Lein a Bît yng Nghalon Bardd (Sain, 2016). A gan ein bod ni ar drothwy blwyddyn newydd, mae'r rhifyn hwn yn cynnwys hefyd eitem newydd o'r enw Calennig, lle dwi a Nei yn bwrw golwg ar y digwyddiadau ry'n ni'n edrych ymlaen atyn nhw dros y flwyddyn sy i ddod. Blwyddyn newydd dda i bawb!
1. Pwnco: sut y dylid mynd ati i gyhoeddi barddoniaeth heddiw? 2. 13:38 Calennig: trem ymlaen at yr hyn sy i ddod yn 2017 3. 22:04 Yr Orffwysfa: cerdd newydd sbon gan Casia Wiliam 4. 23:20 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 5. 33:42 Sgwrs â Karen Owen am Lein a Bît yng Nghalon Bardd 6. 49:16 Karen Owen a Deian Elfryn, 'Y drafferth, mewn secsiop …' 7. 52:12 Pryd o Dafod: y gynghanedd lusg 8. 57:21 Y Newyddion Heddiw
What better way to start the new year than by listening to me and Aneirin Karadog talking about poetry? The latest Podlediad Clera is out – available on SoundCloud and iTunes – and focuses this time on how best to publish poetry and reach new audiences today. It also includes new poetry by Casia Wiliam and Karen Owen, and we also find out that 'wet t-shirt competition' is actually a perfect consonantal cynghanedd … A happy new year to all our listeners!
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|