Daeth rhifyn cyntaf y flwyddyn o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) â newyddion trist yn ei sgil, sef colli'r bardd amryddawn Dai Rees Davies ychydig cyn y Nadolig. Ceir eitem arbennig i gofio Dai Rees, y talyrnwr peryglus a'r bardd dwys a hynod ddigri, gyda chlipiau o rifyn Gorffennaf 2018 o'r podlediad, pan ges i a Nei gwmni Dai ac Emyr Pen-rhiw yn Nhafarn Ffostrasol, ynghyd â chyfraniadau n
gan Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds ac Elsie Reynolds. Dyma fy englyn i er cof am Dai: Heddiw, os trist angladdol – Rhydlewis, Dai Rees, a Ffostrasol, Nid du heddiw dy waddol: Mae'n llawen d'awen ar d'ôl. Ceir trafodaeth gen i a Nei ar wefannau barddol o bob math, o ystamp.cymru a chyfrifon gan feirdd diwyd ar Twitter i wefannau unigol fel f'un i ac un newydd sbon gan Nei ei hun, aneirinkaradog.cymru. A finnau ar fin cyhoeddi fy ail gasgliad o gerddi – Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas) – daw'r orffwysgerdd y tro hwn gen i.
1. Gair o groeso
2. 08.40 Pwnco: trafodaeth ar wefannau barddol o bob math 3. 27.15 Pos rhif 35 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 32.40 Yr Orffwysgerdd: 'Aber-ddiblastig' gen i 5. 37.10 Cofio Dai Rees Davies (clywir lleisiau Dai, Emyr Pen-rhiw, Ceri Wyn Jones 41.20 ymlaen) 6. 52.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.02.00 Y Newyddion Heddiw
The first Clera podcast of 2020 (available on both SoundCloud and iTunes) starts on a sad note, as we mourn the passing of one of the scene's wittiest poets, Dai Rees Davies of Ffostrasol, with contributions from Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds and Elsie Reynolds. A poem also by me from my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), and a look at what the poetry scene has to offer online, including Aneirin's brand new website, aneirinkaradog.cymru.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|