Daeth y mis bach â phodlediad newydd yn ei sgil – rhifyn Chwefror o Clera! Ac fel arfer, mae ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Mae'r rhifyn hwn yn un hyfryd o dechnegol mewn mannau – trafodaeth gyda'r bardd Iwan Rhys am engmojis a pheiriannau cynganeddu, a sgwrs ag Awel Vaughan Evans am y gwaith o fesur ymateb yr ymennydd i'r gynghanedd – a'r rheini'n cadw cwmni i hen ffefrynnau fel Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a Newyddion Heddiw. Ceir hefyd gerdd anturus gan Fardd Plant Cymru a sgwrs ag un o sylfaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin. Digon, felly, i gadw'r gîc mwyaf pybyr a'r gwrandäwr mwyaf chwilfrydig yn ddiddig am ychydig llai nag awr!
1. Pwnco: trafodaeth ag Iwan Rhys am ysgrifennu barddoniaeth ar ffurf emojis a llawer mwy … 2. 19:34 Yr Orffwysfa: cerdd gan Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru 3. 20:37 Sgwrs ag Awel Vaughan Evans o Brifysgol Bangor am brosiect niwrowyddonol cyffrous 4. 32:47 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 5. 43:10 Sgwrs â Geraint Roberts, un o sylfaenwyr Ysgol Farddol Caerfyrddin 6. 50:48 Pryd o Dafod: y gynghanedd lusg o gyswllt 7. 53:24 Y Newyddion Heddiw
In Welsh, February is sometimes referred to as y mis bach – 'the little month' – but the latest Podlediad Clera is anything but. It is in fact packed full with items to please both ardent geeks – discussions on using emojis to write poetry, building cynghanedd machines and the application of neuroscience to the intricacies of strict metre poetry – and curious listeners alike, with a poem by Anni Llŷn (Bardd Plant Cymru), a brand new cynghanedd lesson and all the latest news. As always, it's available on SoundCloud and on iTunes.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|