Cafodd podlediad Clera mis Awst ei recordio, yn ôl ein harfer bellach, yn fyw yn y Babell Lên ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes. Ein gwesteion arbennig oedd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn, a Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, ynghyd â'r posfeistr ei hun, Gruffudd Antur. Daw'r orffwysgerdd gan Gruffudd Owen, a'r eitem eisteddfodol Gemau a Giamocs gan bawb! Hynny oll a llawer mwy, yn cynnwys Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Flwyddyn.
1. Croeso o'r Babell Lên yn Nyffryn Conwy 2. 06.20 Pwnco: sgwrs ddifyr iawn â Phrif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn 3. 22.15 Pos rhif 30 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 27.55 Yr Orffwysgerdd: cerdd newydd sbon gan y prifardd Gruffudd Owen 5. 33.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis … y Flwyddyn! 6. 40.50 Gemau a Giamocs
August's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – was recorded live at the National Eisteddfod in Dyffryn Conwy with special guests Lleucu Siencyn, Chief Executive of Literature Wales, the current Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen, and our very own quizmaster Gruffudd Antur.
0 Comments
Mae rhifyn mis Gorffennaf o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawn i'r ymylon o sôn am ddigwyddiadau barddol diweddar a rhai eto i ddod fis Awst. Hwn yw'r cyntaf ers un ar ddeg o fisoedd i'r podlediad gael ei recordio gydag Aneirin ar dir a daear Cymru, a braf yw clywed ganddo am lansiad ei gyfrol newydd sbon o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas), yn yr Egin yng Nghaerfyrddin. Sôn hefyd am y Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor – lle cyflwynais i bapur ar y bardd Huw Morys (1622–1709) – am hanes Nei a'i deulu yn yr orymdaith lwyddiannus dros annibyniaeth yng Nghaernarfon, ac am fy hanes i'n meuryna ymryson Eisteddfod Powys. Hynny i gyd a gorffwysgerdd arbennig gan Hywel Griffiths, sef cerdd a ddarllenwyd ganddo yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Aberteifi.
1. Aneirin ar dir Cymru 2. 10.15 Y Pwnco: mesurau hen a newydd, yn cynnwys sgwrs â'r prifardd archdderwydd Myrddin ap Dafydd 3. 31.50 Pos rhif 29 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 35.00 Yr Orffwysfa: 'Goleuni Gŵyl' gan y prifardd Hywel Griffiths 5. 37.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 53.50 Y Newyddion Heddiw
The Clera podcast for July – on both SoundCloud and iTunes – is Aneirin's first in Wales for eleven months. We discuss all the happenings in a very busy time on the poetry scene, with events all over Wales in the runup to the National Eisteddfod, including the launch of Aneirin's brand new collection, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). A poem also by Hywel Griffiths from a ceremony in Aberteifi to mark the coming of the Eisteddfod to Ceredigion next year – Tregaron, to be precise – the first with Myrddin ap Dafydd as archdruid.
Yn ogystal â'r holl eitemau arferol, mae rhifyn mis Tachwedd o bodlediad Clera yn cynnwys sgwrs â phrifardd y Gadair, Gruffudd Owen, a recordiwyd ychydig oriau cyn i'r ddau ohonon ni gymryd rhan yn noson gyntaf Cicio'r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aber (mae'r cywydd a luniais i longyfarch Gruffudd ar ei gamp ac a ddarllenais y noson honno ar gael i'w darllen ar y wefan hon), sgwrs â Nei am y gynghanedd mewn barddoniaeth Lydaweg a cherdd newydd sbon gan y bardd a'r artist – ac un o feirdd yr Her100Cerdd eleni – Manon Awst, am Farclodiad y Gawres ym Môn. A'r cyfan yn rhad ac am ddim ar SoundCloud ac ar iTunes! Dyma fideo a grëwyd gan Manon i gyd-fynd â'i cherdd, a recordiwyd yn y feddrod ei hun.
1. Croeso a chlonc 2. 10.30 Pwnco: sgwrs â'r prifardd Gruffudd Owen 3. 26.05 Pos rhif 21 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 29.35 Yr Orffwysfa: 'Barclodiad y Gawres' gan Manon Awst 5. 33.10 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: y gynghanedd Lydaweg 6. 45.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 54.50 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – on SoundCloud and iTunes – includes an interview with this year's winner of the Chair competition at the National Eisteddfod in Cardiff, Gruffudd Owen – recorded before he took part in Cicio'r Bar, a new poetry event in the Aberystwyth Arts Centre – a talk with Aneirin about strict metre Breton poetry and a brand new poem by the artist and poet, Manon Awst, who took part in this year's Her100Cerdd. The poem is about the Neolithic burial chamber on Anglesey known as Barclodiad y Gawres, and Manon recorded herself reading the poem inside the chamber itself. She also produced a video to accompany the poem, which can be seen above.
Cyrhaeddodd rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera'n hwyr iawn yn y mis, jyst mewn pryd ar gyfer noson Calan Gaeaf (SoundCloud ac iTunes, fel arfer). Ac mae hwn yn rhifyn arswydus o lawn! Y bardd Ifan Prys yn westai arbennig, y prifardd Hywel Griffiths a chyn-olygydd Barddas Elena Gruffudd yn adolygu cyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 (gyda golwg yn benodol ar y mân gystadlaethau barddoniaeth), Gorffwysgerdd newydd sbon gan neb llai nag Aneirin ei hun, a honno'n ymateb i'r gerdd gen i yn yr Orffwysfa ym mis Medi. Hynny i gyd a'r holl eitemau arferol, o bos Gruffudd Antur i'r llinell ddamweiniol.
1. Croeso a chlonc 2. 12.10 Pwnco: trafod barddoniaeth y brifwyl gyda Hywel Griffiths ac Elena Gruffudd 3. 38.05 Pos rhif 20 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 41.40 Yr Orffwysfa: 'Kenavo Eurig' gan Aneirin 5. 45.05 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: yr anthem genedlaethol 6. 51.20 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 59.55 Y Newyddion Heddiw
The October Clera podcast is here! With special guest Ifan Prys, reviewers Hywel Griffiths and Elena Gruffudd, a brand new poem by Aneirin himself and all the regular items – and everything's freely available on both SoundCloud and iTunes.
Ar ddechrau tymor newydd yn y prifysgolion, mae Clera mis Medi eleni – ar SoundCloud ac ar iTunes – wedi dechrau ar gyfnod newydd hefyd. Mater o ddwylo dros y môr yw hi bellach – neu leisiau, o leiaf – gan fod Aneirin wedi mudo i Lydaw! Yn fy unigrwydd, fe luniais gerdd i ffarwelio ag e sy ar gael i'w darllen ar y wefan hon – 'Mewn Hiraeth am Aneirin' – a'r gerdd honno yw'r Orffwysgerdd y tro hwn, a recordiwyd yn noson y Capel Jazz ar nos Lun yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cawson ni hefyd gyfle ddydd Sadwrn olaf glawog yr Eisteddfod i recordio cyfweliad cyffrous ar stondin Barddas, a hynny â neb llai na phrifardd y Goron, Catrin Dafydd. Mae'r holl eitemau arferol yma hefyd, ynghyd ag un newydd sbon i wneud y gorau o'r ffaith fod Nei wedi ymgartrefu mewn gwlad Geltaidd arall – Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad. Mwynhewch yr arlwy ar ei newydd wedd!
1. Croeso a'r englyn olaf i Lŷr Hael (05.50) 2. 08.20 Pwnco: sgwrs â'r prifardd Catrin Dafydd 3. 22.15 Pos rhif 19 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 24.40 Yr Orffwysfa: 'Mewn Hiraeth am Aneirin' gan Eurig 5. 33.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: yr iaith a'r sin farddol yn Llydaw 6. 42.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 46.55 Y Newyddion Heddiw
This Clera podcast – on SoundCloud and iTunes – is the first of many in the series to be recorded between two Celtic countries, following Aneirin's departure to Brittany this summer, leaving me alone in Wales to face the absurdity of Brexit on my own! I managed to alleviate the pain by writing a poem to him – available on this website – and a recording of me reading it at a poetry event at the National Eisteddfod is included in the podcast, along with an interview with this year's winner of the Crown competition, Catrin Dafydd. All the usual items also, as well as a brand new segment in which Nei shares some of his musings on the language and poetry of Llydaw.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|