Mae rhifyn mis Gorffennaf o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawn i'r ymylon o sôn am ddigwyddiadau barddol diweddar a rhai eto i ddod fis Awst. Hwn yw'r cyntaf ers un ar ddeg o fisoedd i'r podlediad gael ei recordio gydag Aneirin ar dir a daear Cymru, a braf yw clywed ganddo am lansiad ei gyfrol newydd sbon o gerddi, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas), yn yr Egin yng Nghaerfyrddin. Sôn hefyd am y Gyngres Geltaidd a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor – lle cyflwynais i bapur ar y bardd Huw Morys (1622–1709) – am hanes Nei a'i deulu yn yr orymdaith lwyddiannus dros annibyniaeth yng Nghaernarfon, ac am fy hanes i'n meuryna ymryson Eisteddfod Powys. Hynny i gyd a gorffwysgerdd arbennig gan Hywel Griffiths, sef cerdd a ddarllenwyd ganddo yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Aberteifi.
1. Aneirin ar dir Cymru 2. 10.15 Y Pwnco: mesurau hen a newydd, yn cynnwys sgwrs â'r prifardd archdderwydd Myrddin ap Dafydd 3. 31.50 Pos rhif 29 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 35.00 Yr Orffwysfa: 'Goleuni Gŵyl' gan y prifardd Hywel Griffiths 5. 37.35 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 53.50 Y Newyddion Heddiw
The Clera podcast for July – on both SoundCloud and iTunes – is Aneirin's first in Wales for eleven months. We discuss all the happenings in a very busy time on the poetry scene, with events all over Wales in the runup to the National Eisteddfod, including the launch of Aneirin's brand new collection, Llafargan (Cyhoeddiadau Barddas). A poem also by Hywel Griffiths from a ceremony in Aberteifi to mark the coming of the Eisteddfod to Ceredigion next year – Tregaron, to be precise – the first with Myrddin ap Dafydd as archdruid.
0 Comments
Rhifyn mis Mehefin o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yw'r olaf gydag Aneirin yn Llydaw – bydd e a'i deulu'n ôl yng Nghymru erbyn y rhifyn nesaf – ac yntau'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru. Yn ogystal â sgwrs Bwnco â'r Bardd Plant Cymru ewydd, Gruffudd Owen, a'r holl eitemau arferol, mae'r rhifyn hwn yn cynnwys sgwrs a recordiwyd yn noson Cicio'r Bar yn Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau, a hynny rhwng Gruffudd Antur a'r bardd gerddor Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog gynt). Roedd Iwan yn lansio ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), ac ef hefyd sy biau'r orffwysgerdd y tro hwn – recordiwyd Iwan yn canu'r gerdd y noson honno. Fe es i hefyd i seremoni Llyfr y Flwyddyn, eto yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac fe ges i sgwrs â'r bardd arlunydd bobdimiwr Siôn Tomos Owen am ei gyfraniad e at un o'r cyfrolau ar restr fer y wobr farddoniaeth eleni, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas) gan Manon Rhys. A sôn am Lyfr y Flwyddyn, mae gen i ddarn ar wefan y Stamp yn trafod y tair cyfrol farddoniaeth a ddaeth i'r brig. Sgwrs hefyd – neu dair sgwrs, a bod yn deg – gan Aneirin o Gouel Broadel a Brezhoneg, sef eisteddfod y Llydawyr, i bob diben.
1. Croeso (am y tro olaf, i Nei, o Lydaw) 2. 12.50 Y Pwnco: sgwrs â'r Bardd Plant Cymru newydd, y prifardd Gruffudd Owen 3. 22.15 Pos rhif 28 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 26.00 Gruffudd Antur yn holi Iwan Huws yn noson Cicio'r Bar 5. 35.15 Yr Orffwysgerdd: Iwan Huws yn canu 'Defodau' 6. 39.10 Sgwrs â Siôn Tomos Owen yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 7. 49.50 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Gouel Broadel a Brezhoneg 8. 57.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.04.55 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – is Aneirin's last from Brittany, and includes an item recorded by him at Brittany's premier cultural festival Gouel Broadel a Brezhoneg, also an interview with the new Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, two recordings from Cicio'r Bar at Aberystwyth Arts Centre, one of Gruffudd Antur in conversation with Iwan Huws about his first collection of poetry, Gadael Rhywbeth (Cyhoeddiadau Barddas), and a recording of a poem from that collection sung by Iwan himself. An interview too from Wales Book of the Year, also at the Arts Centre, with illustrator and poet and master of all trades Siôn Tomos Owen, about his collaboration with Manon Rhys on her shortlisted collection of poetry, Stafell fy Haul (Cyhoeddiadau Barddas).
Mae rhifyn mis Mai o bodlediad Clera – ar SoundCloud ac ar iTunes – yn dechrau â sgwrs go hir am bob math o bethau dan haul, o gerddi newydd Aneirin i nofel newydd gen i am Ifor Bach. Mae'r Pwnco ei hun yn trafod teilyngdod neu, yn fwy penodol, ddiffyg teilyngdod mewn cystadlaethau llenyddol – mewn geiriau eraill, sut a pham ac, yn wir, ym mhle y dylid atal gwobrwyo – gyda chyfraniad gwerthfawr gan y prifardd Gruffudd Owen. Daw'r orffwysgerdd gan Judith Musker Turner ac, yn ei eitem reolaidd o Lydaw, mae Aneirin yn sgyrsio â Ronan Hirrien, cynhyrchydd rhaglen arbennig a ffilmiwyd yng Nghymru ac yn Llydaw ac a gyflwynwyd gan Nei ei hun.
1. Aneurig yn mwydro 2. 19.25 Y Pwnco: sgwrs am deilyngdod a diffyg teilyngdod 3. 35.30 Pos rhif 27 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 39.25 Yr Orffwysfa: 'Cadwyni' gan Judith Musker-Turner 5. 42.45 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: sgwrs â Ronan Hirrien 6. 56.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.03.40 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast – available on both SoundCloud and iTunes – includes a poem by Judith Musker Turner, an interview with Breton television producer Ronan Hirrien, who recently made a programme about Wales presented by our very own Aneirin, and a discussion of the pros and cons of refusing to award a prize in a literary competition.
Mae rhifyn mis Mehefin o bodlediad Clera ar gael, fel arfer, ar SoundCloud ac ar iTunes, ac yn dechrau â sgwrs am y stomp – parhad, mewn gwirionedd, o'r sgwrs a gafwyd y mis diwethaf – y tro hwn â chyfraniadau difyr a diddorol gan Mei Mac, Ceri Anwen James a Leusa Fflur Llewelyn. Ymlaen wedyn at orffwysgerdd arbennig gan y prifardd a'r cyn-archdderwydd Jim Parc Nest a sgwrs ddifyr â chynganeddwr o Sheffield sy'n byw bellach yn Llydaw, Felix Parker Price – ynghyd â'r holl eitemau arferol!
1. Croeso; sgwrs fer am nofel sy ar y gweill gen i am Ifor Bach; 2. 08.30 Pwnco: sgwrs am y stomp (rhan 2) 3. 28.50 Recordiad byw o lansiad Ar Ben y Lôn gan Idris Reynolds 4. 37.25 Pos rhif 26 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 41.45 Yr Orffwysgerdd: 'Golau Arall' gan Jim Parc Nest 6. 46.05 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: sgwrs â Felix Parker Price 7. 58.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 01.04.05 Y Newyddion Heddiw
The April edition of the Clera podcast is available, as always, on both SoundCloud and iTunes, and includes more on the popular new poetry format, the stomp, a brand new poem by the great poet and former archdruid T James Jones (also known as Jim Parc Nest), an interview with Felix Parker Price, who is originally from Sheffield, speaks Welsh, Irish and Breton and has been learning how to create cynganeddion with Aneirin recently – and much more!
Yn y mis bach – chwedl Mererid Hopwood, chwedl Nei'r rhifyn hwn – mae eisiau beirdd! Ym mhodlediad Clera'r mis hwn – cyfle'n gyntaf i sgyrsio am ambell beth sy wedi digwydd ar y sin yn ddiweddar, yn cynnwys noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth, erthygl gan Iestyn Tyne ar wefan y Stamp am 'Atgof' Prosser Rhys a phrosiect newydd gen i ar gyfer creu talwrn i bobl ifanc. Y bwriad yw sefydlu timau talwrn mewn pedair ysgol uwchradd dros y misoedd nesaf, a gofyn i bobl ifanc Cymru ailddychmygu'r hyn yw'r talwrn ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gyda chymorth gan y prifardd Gruffudd Eifion Owen a'r cyn-Fardd Plant Anni Llŷn. Sgwrs bwnco wedyn am y talwrn a'r ymryson – a'r gwahaniaeth pwysig rhwng y ddwy gystadleuaeth farddol! – gyda chyfraniadau gwerthfawr gan y prifardd archdderwydd Myrddin ap Dafydd a'r prifardd feuryn ei hun, Ceri Wyn Jones. Daw'r orffwysgerdd y tro hwn gan Caryl Bryn, a gellir darllen y gerdd yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barddas. Ac yn ogystal â'r holl eitemau arferol, sgwrs ddiddorol iawn gan Nei am Kervarker, bardd o Lydaw a ddaeth i Gymru ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg i gymryd rhan yn eisteddfodau'r Fenni. Ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes.
1. Croeso a sgwrs am y byd barddol a'i bethau 2. 12.25 Pwnco: y talwrn a'r ymryson 3. 38.15 Pos rhif 24 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 42.40 Yr Orffwysfa: 'Rhiwlas' gan Caryl Bryn 5. 44.55 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Kervarker ac eisteddfodau'r Fenni 6. 57.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.02.45 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast includes an introduction to a my current project at the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth to hold a 'talwrn' competition for young people over the coming months, an overview of what 'talwrn' and 'ymryson' mean – and the important differences between them! – with insight by the new archdruid Myrddin ap Dafydd and the presenter and adjudicator of BBC Radio Cymru's Talwrn y Beirdd programme, Ceri Wyn Jones. New poetry also by Caryl Bryn and a look back at Kervarker – one of Brittany's most notable poets – and his antics at the nineteenth century eisteddfodau. Available on both SoundCloud and iTunes.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|