Deffrwch o'ch trwmgwsg, mae podlediad Clera mis Mawrth – a thymor y gwanwyn – wedi cyrraedd! Y pwnc trafod y tro hwn, ar ôl sgyrsio am y talwrn a'r ymryson y mis diwethaf, yw'r fformat barddol newydd a phoblogaidd hwnnw, y stomp. Ceir cyfraniadau difyr a heriol i'r drafodaeth honno gan Arwel Pod Roberts a Mei Mac. Daw'r orffwysgerdd – neu'r gorffwysgerddi, mewn gwirionedd – gan Llion Jones, a gyhoeddodd yn ddiweddar fod ei farathon cynganeddol ar Twitter wedi dod i ben, ac mae'r eitem o Lydaw'n cynnwys cerdd goffa arbennig gan Nei ei hun i arwr ym myd y Llydaweg, Yann-Fanch Kemener. Hynny i gyd ar ben yr holl eitemau arferol. Ar gael yn rhad ac am ddim ar SoundCloud ac ar iTunes.
1. Croeso, y diweddaraf am Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r diweddaraf yng nghyfres #englyniongwyddonol Hywel Griffiths (11.20) 2. 14.45 Pwnco: sgwrs am y stomp (rhan 1) 3. 32.30 Pos rhif 25 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 35.55 Yr Orffwysgerdd: detholiad o drydargerddi Llion Jones 5. 47.00 Awn Draw i Lydaw â'r Podlediad: Yann-Fanch Kemener 6. 01.00.00 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.08.00 Y Newyddion Heddiw
The Clera podcast for March – available on both SoundCloud and iTunes – includes a discussion of the most successful poetic format of recent years, the stomp, with contributions by key performers and organisers, a selection of greatest Twitter hits by Llion Jones, who recently decided to bring to an end his long and unprecedented run of poetry tweets written only in cynghanedd, as well as a tribute to the late Yann-Fanch Kemener, one of Brittany's greatest traditional singers.
0 Comments
Leave a Reply. |
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|