Yn yr ail rifyn o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr – ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – ry'n ni'n trafod beth sy'n fy nghadw i ac Aneirin yn brysur, a dim yn fwy na golygu ar y cyd Y Gynghanedd Heddiw (Cyhoeddiadau Barddas), cyfrol newydd am y grefft a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni. I ddarllen erthygl gan Aneurig sy'n amlinellu gweledigaeth a chynnwys y gyfrol yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Barddas, clicia fan hyn a throi at dudalen 28. Ceir trafodaeth ar ffugenwau – pam, sut a pha rai sy'n aros yn y cof – a cherdd newydd sbon gan Elinor Wyn Reynolds. At hynny, ceir eitem newydd lle ry'n ni'n gwahodd beirdd i rannu eu harferion creu â ni – sef ble, pryd a sut maen nhw'n mynd ati i lunio cerdd – a'n bardd cyntaf yw Philippa Gibson o Bontgarreg. Hynny i gyd a llongyfarchion i Dr Nei am gwblhau ei draethawd PhD yr wythnos hon! Cloir y bennod ag eitem gerddorol, ymdrech ffôl ond llawn bwriadau da gen i i ganu carol haf gan Huw Morys, bardd mwyaf yr ail ganrif ar bymtheg, a ninnau bellach ar drothwy mis Mai. I ddarllen golygiad llawn o'r gerdd honno gen i, clicia fan hyn.
1. Hynt a helynt y ddau hyn
2. 13.15 Pwnco: ffugenwau o bob math 3. 33.35 Pos rhif 38 gan Gruffudd a'i Ymennydd tu Mewn 4. 38.05 Yr Orffwysgerdd: 'Y Goeden Bants' gan Elinor Wyn Reynolds 5. 44.40 Eitem newydd am arferion creu'r beirdd: Philippa Gibson 6. 44.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis 7. 57.10 Y Newyddion Heddiw 8. 01.00.00 Carol haf gan Huw Morys
The Clera podcast this month (on both SoundCloud and iTunes) includes a discussion on poetic pseudonyms – those little nom de plumes that Welsh poets have to conjure up whenever they enter an eisteddfod competition – a brand new poem about pants (what else?) by Elinor Wyn Reynolds, and a new item on poets' writing habits (our first contribution comes from Philippa Gibson). All this and congratulations to Dr Aneirin for passing his PhD viva this week, and a musical number by yours truly to round things off, an attempt at least to sing a timely carol haf by Huw Morys (1622–1709). To read my new edition of the poem, click here.
0 Comments
Daeth newid ar ein byd ni i gyd fis Mawrth eleni, ac mae pawb yn dal i addasu ac i ymdopi mewn gwahanol ffyrdd â'r Cau Mawr yn sgil ymlediad y feirws creulon. Dyw podlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) ddim yn eithriad, a'm gobaith i a Nei yw y bydd hwnnw'n fodd i ysgafnhau'r baich ac i fyrhau'r oriau nes y daw pethau'n ôl at eu coed unwaith eto. Gyda hynny mewn golwg, mae'r rhifyn y tro hwn yn cynnwys trosolwg o'r arlwy helaeth iawn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth ac, yn wir, lenyddiaeth yn gyffredinol, yn cynnwys fy ngwefan i, gwefan Nei a gwefannau Barddas, ystamp.cymru, Cerddi Corona ar Facebook a llawer mwy. Ceir hefyd gerdd i godi calon pawb gan Iwan Rhys – ac nid Iwan sy'n darllen ond, yn hytrach, ei ddatgeiniad dros dro, y Bardd Plant Gruffudd Owen – ynghyd ag eitem am gyfrol newydd sbon ac unigryw iawn Aled Jones Williams o gerddi, Cerddaf o'r Hen Fapiau, yn cynnwys cyfraniad gan Arwel Rocet Jones. Gellir archebu copi o'r gyfrol honno – wedi ei chreu â llaw gan Aled ei hun – drwy glicio fan hyn. Hynny i gyd, a'r newyddion fod fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), bellach wedi ei hargraffu … ond mae'r copïau i gyd yn sownd o hyd yn yr argraffdy!
1. Croeso gan Aneurig
2. 12.30 Pwnco: golwg ar hyn sy ar gael ar lein i'r rheini sy'n caru barddoniaeth 3. 28.15 Pos rhif 37 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 34.30 Yr Orffwysgerdd: Gruffudd Owen yn darllen 'Crwyth y Pythgodyn' gan Iwan Rhys 5. 37.55 Eitem am gyfrol newydd Aled Jones Williams 6. 44.40 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 54.00 Y Newyddion Heddiw
With the Coronavirus changing all of our lives, our hope is that this month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) will come as a welcome distraction. Speaking of which, this time we have a roundup of what else's on offer online free and readily available for those who love Welsh poetry, also a look at Aled Jones Williams's brand new collection of poetry, Cerddaf o'r Hen Fapiau – a unique manuscript handcrafted by the poet himself and available in limited supply – and a humorous poem by Iwan Rhys performed by Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.
A ninnau bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd – yn gyfansoddiadol, o leiaf – mae rhifyn y mis bach o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac iTunes) yn rhoi llais i wrthdystiad y beirdd. Yn ogystal â gorffwysgerdd yr un gen i ac Aneirin, ceir cerddi hefyd gan Mari George, Iestyn Tyne, Emyr Lewis, Annes Glyn, Siôn Aled a Siân Northey – blodeuged o wyth cerdd, felly, i gadw'r fflam yn fyw. Gelli ddarllen fy ngherdd i, 'Parliament Square', ar y wefan hon drwy glicio fan hyn. Ceir hefyd rywfaint o hanes taith Aneirin i Lydaw'n ddiweddar, a thaith arall gen i i India, y tro hwn i Kolkata, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o gerddi i blant, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ar y cyd â Sampurna Chattarji. Trafodaeth hefyd ar feirniadu mewn eisteddfodau – yn cynnwys tips i gystadleuwyr a sylw i wefan wych Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – hanes noson ddiweddaraf Cicio'r Bar gyda Mari George a Bwca, ynghyd â'r holl eitemau eraill arferol.
1. Hynt a helynt Aneurig, o Lydaw i Kolkata
2. 15.25 Pwnco: beirniadu eisteddfodol 3. 29.55 Pos rhif 36 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 33.10 Y Gorffwysgerddi: rhesaid o gerddi i nodi gadael yr Undeb Ewropeaidd 5. 43.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 6. 50.40 Y Newyddion Heddiw
In the wake of the UK's departure from the European Union, February's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) has a medley of poems by eight poets that form a challenge to those who think the battle's over (read mine here). We also hear from Aneirin about his recent visit to Brittany, I share some stories from my recent visit to Kolkata, and we both discuss the role of adjudicating in eisteddfodau all across Wales.
Ddiwrnod olaf Ionawr eleni, fe ges i fy hun ar gyrion Llundain â rhyw chwe awr i'w treulio cyn dal trên yn ôl i Aberystwyth. A hithau'n ddiwedd cyfnod hir i'r Deyrnas Unedig o fod yn aelod cyflawn o'r Undeb Ewropeaidd, fe ges i fy nhynnu i gylch y llewod yn Parliament Square. Ac i sgubo hynny o arswyd o'r cof, dyma gael llond pen o wynt drannoeth a theimlo brath yr ewyn wrth ymuno â gwrthdystiad llafar ar brom Aber. I ddarllen yr hanes yn llawn, ynghyd â chywydd a ysgrifennais yn sgil yr ymweliad â chanol Llundain, clicia fan hyn. A chance visit to the bowels of London at the end of January led to a poem that you can read here. The poison of Brexit found its antidote the next day, on a dazzlingly tempestuous day of fierce wind and smashing waves on the Aber seafront, where a large crowd came together in a show of strength and compassion in the face of such constitutional folly.
Daeth rhifyn cyntaf y flwyddyn o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) â newyddion trist yn ei sgil, sef colli'r bardd amryddawn Dai Rees Davies ychydig cyn y Nadolig. Ceir eitem arbennig i gofio Dai Rees, y talyrnwr peryglus a'r bardd dwys a hynod ddigri, gyda chlipiau o rifyn Gorffennaf 2018 o'r podlediad, pan ges i a Nei gwmni Dai ac Emyr Pen-rhiw yn Nhafarn Ffostrasol, ynghyd â chyfraniadau n
gan Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds ac Elsie Reynolds. Dyma fy englyn i er cof am Dai: Heddiw, os trist angladdol – Rhydlewis, Dai Rees, a Ffostrasol, Nid du heddiw dy waddol: Mae'n llawen d'awen ar d'ôl. Ceir trafodaeth gen i a Nei ar wefannau barddol o bob math, o ystamp.cymru a chyfrifon gan feirdd diwyd ar Twitter i wefannau unigol fel f'un i ac un newydd sbon gan Nei ei hun, aneirinkaradog.cymru. A finnau ar fin cyhoeddi fy ail gasgliad o gerddi – Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas) – daw'r orffwysgerdd y tro hwn gen i.
1. Gair o groeso
2. 08.40 Pwnco: trafodaeth ar wefannau barddol o bob math 3. 27.15 Pos rhif 35 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 32.40 Yr Orffwysgerdd: 'Aber-ddiblastig' gen i 5. 37.10 Cofio Dai Rees Davies (clywir lleisiau Dai, Emyr Pen-rhiw, Ceri Wyn Jones 41.20 ymlaen) 6. 52.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.02.00 Y Newyddion Heddiw
The first Clera podcast of 2020 (available on both SoundCloud and iTunes) starts on a sad note, as we mourn the passing of one of the scene's wittiest poets, Dai Rees Davies of Ffostrasol, with contributions from Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds and Elsie Reynolds. A poem also by me from my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), and a look at what the poetry scene has to offer online, including Aneirin's brand new website, aneirinkaradog.cymru.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|