Daeth rhifyn cyntaf y flwyddyn o bodlediad Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) â newyddion trist yn ei sgil, sef colli'r bardd amryddawn Dai Rees Davies ychydig cyn y Nadolig. Ceir eitem arbennig i gofio Dai Rees, y talyrnwr peryglus a'r bardd dwys a hynod ddigri, gyda chlipiau o rifyn Gorffennaf 2018 o'r podlediad, pan ges i a Nei gwmni Dai ac Emyr Pen-rhiw yn Nhafarn Ffostrasol, ynghyd â chyfraniadau n
gan Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds ac Elsie Reynolds. Dyma fy englyn i er cof am Dai: Heddiw, os trist angladdol – Rhydlewis, Dai Rees, a Ffostrasol, Nid du heddiw dy waddol: Mae'n llawen d'awen ar d'ôl. Ceir trafodaeth gen i a Nei ar wefannau barddol o bob math, o ystamp.cymru a chyfrifon gan feirdd diwyd ar Twitter i wefannau unigol fel f'un i ac un newydd sbon gan Nei ei hun, aneirinkaradog.cymru. A finnau ar fin cyhoeddi fy ail gasgliad o gerddi – Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas) – daw'r orffwysgerdd y tro hwn gen i.
1. Gair o groeso
2. 08.40 Pwnco: trafodaeth ar wefannau barddol o bob math 3. 27.15 Pos rhif 35 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 32.40 Yr Orffwysgerdd: 'Aber-ddiblastig' gen i 5. 37.10 Cofio Dai Rees Davies (clywir lleisiau Dai, Emyr Pen-rhiw, Ceri Wyn Jones 41.20 ymlaen) 6. 52.50 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 7. 01.02.00 Y Newyddion Heddiw
The first Clera podcast of 2020 (available on both SoundCloud and iTunes) starts on a sad note, as we mourn the passing of one of the scene's wittiest poets, Dai Rees Davies of Ffostrasol, with contributions from Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds and Elsie Reynolds. A poem also by me from my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), and a look at what the poetry scene has to offer online, including Aneirin's brand new website, aneirinkaradog.cymru.
0 Comments
Mae'n fis prynu anrhegion! A beth well ar rifyn olaf y flwyddyn o Clera (ar SoundCloud ac ar iTunes) nag arolwg o'r cyfrolau barddol a'r cyfrolau gan feirdd sy ar gael y Nadolig hwn? Ceir cyfraniadau gan Alaw Mai Edwards (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Casia Wiliam (cyn-Fardd Plant Cymru ac awdur Eliffant yn Eistedd ar Enfys), Ffrank Olding (bardd y gyfrol newydd Eilun), Esyllt Lewis (un o olygyddion cylchgrawn Y Stamp), Elinor Wyn Reynolds (awdur y nofel Gwirionedd) ac Iwan Rhys (awdur y nofel Y Bwrdd). Achubais i a Nei ar y cyfle wedyn i gael sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), ac am fy nghyfrol newydd i o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), a fydd allan yn y siopau'n fuan. Yn ogystal ag ychydig o hanes fy nhaith ddiweddar i India, er mwyn lansio a hyrwyddo cyfrol newydd o farddoniaeth, The Bhyabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), ceir sgwrs hefyd a recordiwyd yn Delhi rhyngof i a'm cyd-awdur, Sampurna Chattarji, sy'n cynnwys recordiad ohoni'n darllen ei cherdd 'Eisteddfod'. Hynny i gyd, a phedwaredd rownd Talwrn y Beirdd Ifanc, sef tasg yr haicw, gorffwysgerdd dymhorol gan Geraint Løvgreen a'r holl eitemau arferol.
1. Hanes diweddar Aneurig
2. 09.55 Pwnco: holl lyfrau barddol y Nadolig 3. 22.45 Sgwrs fer am gyfrol newydd Nei, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg, a'm cyfrol newydd i o farddoniaeth, Llyfr Gwyrdd Ystwyth 4. 42.00 Pos rhif 34 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 46.35 Yr Orffwysgerdd: 'Siôn Corn' gan Geraint Løvgreen 6. 49.05 Talwrn y Beirdd Ifanc: pedwaredd rownd yr ornest gyntaf 7. 53.25 Sgwrs â Sampurna Chattarji a recordiwyd yn Delhi 8. 01.08.10 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 9. 01.12.50 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast (on both SoundCloud and iTunes) provides a personal shopping experience to some of the season's new books by some of the publishing industry's key agents and writers. Also a seasonal poem by Geraint Løvgreen, a conversation with Sampurna Chattarji, recorded on my recent visit to Delhi to launch and promote a brand new book of poems for children with Sampurna, The Bhabachyacka and Other Wild Poems (Scholastic India), and much more!
A dilyn yr eitem gyntaf o Ŵyl Gerallt yn y rhifyn diwethaf o bodlediad Clera (sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes), sgwrs arall o'r ŵyl a geir yn rhifyn mis Tachwedd, y tro hwn rhwng enillydd y Gadair eleni, Jim Parc Nest, a'r archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd. Daw'r orffwysfa y tro hwn o flodeugerdd newydd o gerddi doniol a olygwyd gan Gruffudd Owen, sef Chwyn (Cyhoeddiadau Barddas), cerdd gan y bardd ddigrifwr o fri Iwan Rhys am y gwaith trist o eillio'i farf. Achubodd Nei ar y cyfle yng Ngŵyl Gerallt i holi Karen Owen am ei CD newydd o gerddi ac am ei chyfrol arfaethedig o farddoniaeth ac, at hynny, ry'n ni wedi cyrraedd y drydedd rownd, sef rownd y gân, yn Nhalwrn y Beirdd Ifanc rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Phiwmas y Preseli. Dwi hefyd, o'r diwedd, wedi dewis enw ar gyfer fy nghyfrol newydd o farddoniaeth, sef Llyfr Gwyrdd Ystwyth – bydd honno mas yn fuan!
1. Hanes y byd a'r betws
2. 13.40 Pwnco: sgwrs o Ŵyl Gerallt rhwng Jim Parc Nest a Myrddin ap Dafydd 3. 23.45 Pos rhif 33 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 4. 28.05 Sgwrs â Karen Owen am ei gwaith CD newydd o gerddi 5. 38.00 Yr Orffwysgerdd: 'Marwnad fy Marf' gan Iwan Rhys 6. 43.35 Talwrn y Beirdd Ifanc: y drydedd rownd o'r ornest gyntaf 7. 01.02.25 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 01.07.15 Y Newyddion Heddiw!
Following on from a recording from Gŵyl Gerallt on last month's Clera podcast (available on both SoundCloud and iTunes), this month's podcast has another recording from the festival, a conversation this time between this year's winner of the Chair at the National Eisteddfod, Jim Parc Nest, and the new archdruid, Myrddin ap Dafydd. A shorter conversation also with Karen Owen about her new CD and collection of poetry, as well as a poem by Iwan Rhys from a new anthology of humorous poems, Chwyn (Cyhoeddiadau Barddas).
Mae rhifyn mis Hydref o bodlediad Clera ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes, ac yn rhoi llwyfan i'r hyn a ddigwyddodd ar lwyfan Gŵyl Gerallt, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Eryrod yn Llanrwst ddiwedd y mis. Bydd mwy o arlwy'r ŵyl ar y podlediad dros y misoedd nesaf, ond fe ddechreuwn â recordiad o sgwrs rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones. Ceir hefyd y rownd nesaf yn eitem Talwrn y Beirdd Ifanc, sef cystadleuaeth y triban rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Phiwmas y Preseli, ynghyd â gorffwysgerdd arbennig gan Karen Owen a Rhys Iorwerth, sef cywydd 'Curo' a luniwyd gan y ddau fardd hynny ac Iwan Llwyd yn ymryson Gŵyl Maldwyn yn 2008. Sôn hefyd am gyfrol newydd gan Aneirin, Byw Iaith: Taith i Fyd y Llydaweg (Gwasg Carreg Gwalch), sef hanes ei gyfnod yn Llydaw'n ddiweddar ac, yn wir, hanes ehangach yr iaith Lydaweg. At hynny, englynion a luniwyd gen i a Hywel Griffiths ar ein hymweliad â Chernyw ddiwedd Medi er mwyn cynrychioli Gorsedd Cymru yng Ngorsedh Kernow – a llawer mwy!
1. Hynt a helynt y ddau gyflwynydd
2. 10.10 Englynion gen i a Hywel Griffiths a ddarllenwyd yng Ngorsedh Kernow ddiwedd Medi 3. 12.30 Pwnco: sgwrs o Ŵyl Gerallt rhwng Philippa Gibson a Tudur Dylan Jones 4. 23.45 Pos rhif 32 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 5. 28.25 Yr Orffwysgerdd: 'Curo' gan Karen Owen, Rhys Iorwerth ac Iwan Llwyd 6. 31.55 Talwrn y Beirdd Ifanc: yr ail rownd o'r ornest gyntaf 7. 40.15 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 8. 50.00 Y Newyddion Heddiw
This month's Clera podcast (on SoundClound and iTunes) has a live recording of a conversation between Philippa Gibson and Tudur Dylan Jones from Gŵyl Gerallt in Llanrwst, as well as round two from the Talwrn y Beirdd Ifanc competition, and a new poem performed by Karen Owen and Rhys Iorwerth.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|