Ar 2 Awst, yn absenoldeb yr Eisteddfod Genedlaethol, darlledwyd Oedfa BBC Radio Cymru dan fy ngofal i a Hywel Griffiths. Diolch am gael y cyfle i gydysgrifennu a chydgyflwyno'r rhaglen. A meddwl pawb ar y brifwyl, ro'n i a Hywel yn meddwl y byddai'n briodol rhoi sylw arbennig i ddau ŵr crefyddol dylanwadol o Geredigion, sef y diwygiwyr mawr Daniel Rowland o Langeitho (1713–90), a'r bardd Niclas y Glais (1879–1971), a dreuliodd lawer iawn o'i oes yn Aberystwyth. Gellir gwrando ar y rhaglen tan ddiwedd Awst drwy glicio fan hyn. Ar frig y rhaglen, dyfynnais linellau agoriadol cerdd gan Daniel Rowland a elwir yn 'halsing', sef math o gerdd boblogaidd a ddefnyddid gynt i adrodd straeon beiblaidd. Dyma ddiolch yn fawr iawn i E. Wyn James am anfon ei drawsysgrifiad ef o'r gerdd o'r unig gopi llawysgrif, sef LlGC Cwrtmawr 189, 99 (David Rees, c.1750). Halsing am y Nadolig yw'r gerdd honno, ond doedd dim gwahaniaeth am hynny, mewn gwirionedd, am fod geiriau gwahoddgar Daniel yn addas ar gyfer pob achlysur:
Ar ddiwedd y rhaglen, ceir cyfres o dri englyn gen i sy'n dathlu'r ffaith fod Duw, yn wyneb pob achos o ymbellhau cymdeithasol, yn dod i'n cwrdd ble bynnag yr y'n ni. Dduw ein Tad, rhoddwn i ti – ein diolch O dai ein trybini Am wirionedd y weddi Wydn hon: wyt gyda ni. Sul i Sadwrn, gwnei siwrnai – i’n tai dwys, A tydi yw’r gwestai, Ein Tad, a drawsffurfia’n tai Yn ddi-ildio’n addoldai. Ein Tad, tro heno badell – dy loeren Di i lawr i’n cymell, Tro ei horbit rhy hirbell At ofalon calon cell. Deffrown, Dad, ar doriad dydd – ein gweddi A rown ni o’r newydd, A daw’n ffaith dros dai ein ffydd Wawr lawn o fawr lawenydd. Ceir y tri darlleniad hyn yn y rhaglen hefyd, yn eu trefn: Salm 46; Llythyr Paul at y Philipiaid, pennod 4; Salm 103. The BBC Radio Cymru religious service on 2 August was both written and presented by Hywel Griffiths and I, and includes poems by the Nonconformist preacher from Llangeitho, Daniel Rowland (1713–90), and a poet and minister who spent much of his life in Aberystwyth, Niclas y Glais (1879–1971), as well as a short poem by myself. The programme is available online until the end of August.
0 Comments
Nos Lun 8 Mehefin, fe ges i'r fraint o gael fy holi gan fy nghyfaill bore oes, Hywel Griffiths, am fy nghyfrol newydd o gerddi, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas). Clicia ar y fideo isod i wylio'r cyfan. Mae'r fideo ar gael hefyd ar wefan yr Eisteddfod ac ar sianel yr Eisteddfod ar YouTube.
Clicia ar y dolenni er mwyn darllen mwy am y gyfrol, i weld Hywel yn darllen cerdd newydd sbon a luniwyd ar gyfer yr Eisteddfod Amgen, ac i weld holl arlwy'r Eisteddfod ar lein.
This video was recorded as part of the National Eisteddfod's series of virtual events, Eisteddfod Amgen, on Monday 8 June. The poet Hywel Griffiths kindly asked me questions about my new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas).
Mae rhifyn mis Mai o bodlediad Clera – sy ar gael ar SoundCloud ac ar iTunes – yn llawenhau fod y mis hyfryd hwnnw wedi cyrraedd o'r diwedd ac, yn ei sgil, ddigonedd o heulwen a chanu adar. Bydd llawer ohonoch wedi gweld fod yr Eisteddfod AmGen yn mynd o nerth i nerth ar lein, a ches i a Nei flas arbennig ar gyflwyniad Peredur Lynch yn yr eisteddfod rithiol honno, sef 'Awdlau'r Eisteddfod Genedlaethol – y Gorau a'r Gwaethaf'. Cawson ni'n hysbrydoli i feddwl pa awdl neu gasgliad, o blith y deunaw sy wedi eu gwobrwyo'r ganrif hon, fyddai'n dod i'r brig gynnon ni. Dewisais i 'Lloches', awdl fuddugol Ceri Wyn Jones yn 2014, ac aeth Nei am ddilyniant arobryn Myrddin ap Dafydd yn 2002, ac fe gawson ni hwyl yn dadlau'n hachos yn ein tro. Yn y rhifyn hwn, ceir hefyd bos newydd sbon gan Gruffudd Antur, disgrifiad arbennig gan Rhys Iorwerth o'r modd y mae o'n mynd ati i greu ac nid un ond dwy gerdd gan y Bardd Cenedlaethol ei hun, Ifor ap Glyn.
Cyflwyniad: 'Mawr a fydd, myn Mair, ei fod, / Mai, fis difai, yn dyfod'!
08.00 Y Pwnco: Aneurig yn dadlau achos dwy awdl eisteddfodol o fri 46.00 Pos rhif 39 gan Gruffudd a'i Ymennydd Miniog 50.35 Yr Orffwysgerdd: 'Cyd-ddiarhebu auf Deutsch' gan Ifor ap Glyn 45.35 Bardd yn y Bath: Rhys Iorwerth 01.01.05 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 01.09.25 Y Newyddion Heddiw 01.16.20 Cerdd arall gan Ifor ap Glyn: 'Pellter'
To celebrate the month of May, the latest Clera podcast – on both SoundCloud and iTunes – gives the songbirds a run for their money! Over 75 minutes of chat, including mine and Aneirin's pick of the winning poems in the Chair competition this century, Rhys Iorwerth sharing how he goes about writing poetry, and not one but two poems by the National Poet of Wales, Ifor ap Glyn.
Yn anffodus, yn sgil aflwydd y feirws a'r Meudwyo Mawr, mae cannoedd o gopïau o'r gyfrol yn gorwedd yn segur yn yr argraffdy! Does dim modd prynu'r gyfrol yn y dull arferol ar hyn o bryd ond, er hynny, mae gen i lond bocs ohonyn nhw adref yma yn Aber. Dwi'n credu'n gryf y dylid cefnogi siopau llyfrau Cymraeg, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gyfrol ar silffoedd siopau ar hyd a lled Cymru'n fuan. Yn y cyfamser, mae'r ychydig gopïau sy gen i – 28 copi, a bod yn fanwl – ar werth. Os hoffet ti brynu copi am £8.95 (dim costau anfon) – a chael neges bersonol gen i ar y tu mewn – rho dy fanylion yn y blychau isod, ac fe anfonaf i neges yn ôl atat ti gyda'r manylion talu. *MAE'R HOLL GOPÏAU OEDD GEN I BELLACH WEDI EU GWERTHU* Ond os wyt ti'n cael trafferth dod o hyd i gopi ar lein yn ystod y Meudwyo Mawr yma, mae croeso iti lenwi'r blychau isod, ac fe anfona'i neges yn ôl i weld a fedra'i helpu. My new collection of poetry, Llyfr Gwyrdd Ystwyth (Cyhoeddiadau Barddas), was published last month. Unfortunately, hundreds of copies are sitting idle in the printing-house, the lockdown having struck as the books were being printed! However, I have 28 copies at home for sale, and you can order one by writing your details in the boxes above (including the option of having your copy signed).
*ALL MY COPIES HAVE NOW BEEN SOLD* But if you're not sure how or where to buy a copy, please fill in the form above and I'll get back to you as soon as I can. A hithau'n Galan Mai, a mwy o angen nag erioed yn sgil y Meudwyo Mawr i ddathlu dyfodiad yr haf, dyma rannu golygiad gen i o garol haf gan Huw Morys. Bardd o'r ail ganrif ar bymtheg oedd Huw (1622–1709) – y mwyaf o feirdd y ganrif honno – ac roedd o'n byw ym Mhont-y-meibion yn nyffryn Ceiriog. Canodd gannoedd o gerddi yn ystod ei oes hir, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi goroesi mewn llawysgrifau, a rhai yn ei law ef ei hun. Ychydig sy'n cofio amdano heddiw, yn anffodus, gan mor llwyr y difrïwyd yr ail ganrif ar bymtheg fel canrif y dirywio mawr yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ond fel y bydda' i'n ei ddangos mewn ysgrif yn Y Gynghanedd Heddiw, cyfrol wedi ei golygu gen i ac Aneirin Karadog a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni (gw. erthygl gen i ac Aneirin yn y rhifyn cyfredol o Barddas), mae Cymru ar ei cholled yn sgil gwarthnodi ac anwybyddu cynnyrch hynod amrywiol a chyfoethog y ganrif honno. Er mwyn dechrau'r gwaith mawr o gywiro'r gwall, mae'n fwriad gen i gyhoeddi golygiadau o rai o gerddi Huw erbyn dathlu pedwar canmlwyddiant ei eni yn 2022.
Fodd bynnag, wrth olygu'r gerdd, fe ddes o hyd i hen alaw a ddiogelwyd gan John Jenkins (1770–1829), sef Ifor Ceri, clerigwr a hynafiaethydd a wnaeth waith allweddol o ran casglu'r hen alawon gwerin. Nodir mewn llythyr ganddo iddo godi fersiwn o'r alaw boblogaidd 'Mwynen Mai', a ddefnyddid yn aml i ganu carolau haf, gan ddyn yn nyffryn Ceiriog oedd yn ddisgynnydd i ŵr 'who used to sing them to Huw Morus with his unrivalled songs'. Hon, fe fentraf i, yw'r alaw a ddefnyddid i ganu carolau haf yn nyffryn Ceiriog a'r cyffiniau, a gallwn ailuno heddiw'n hyderus eiriau'r hen feistr â'r alaw wreiddiol. I glywed y geiriau a'r alaw'n cael eu canu gen i – cyn y gallaf i ddod o hyd i rywun gwell i wneud y gwaith maes o law – gwranda ar bum munud olaf rhifyn mis Ebrill o bodlediad Clera (o 01.00.00 ymlaen). (Diolch yn arbennig i Bethan Miles am fy helpu i ddarllen y gerddoriaeth.) Ceir isod olygiad llawn gen i o destun y gerdd, ynghyd â geirfa, nodiadau ar ei chynnwys, ei mesur, ei chynghanedd, ei halaw a'r unig lawysgrif lle'i diogelwyd, yn ogystal â gwybodaeth am olygiadau eraill. This is my new edition of a carol haf, or summer carol, by the greatest Welsh poet of the sixteenth century, Huw Morys (1622–1709) of Pont-y-meibion in the Ceiriog valley. My edition is based on the only extant manuscript copy, whose readings are superior to the other known texts (the most recent of which was published in 1902), and brings the text together with its original tune (my unfortunate but well-meaning attempt at singing it can be heard from the hour mark on in April's Clera podcast). May-day poems were sung with accompaniment on the fiddle to joyfully celebrate the beginning of summer, and often include a brief commentary on the year gone by. Huw refers to the blight of taxation during the reign of William III (1689–1702), and the poem therefore probably belongs to the 1690s, perhaps after 1695, when heavy taxes were raised to finance the king's wars on the continent. It is my intention to edit and publish a selection of Huw's vast output to mark the fourth centenary of his birth in 2022.
|
Blog eurig.cymrucerddi | syniadau Archif | Archives
February 2023
Categorïau | Categories
All
|